Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i gymhwysiad gwe Gwiriwr Cymhwysedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae'r cymhwysiad gwe hwn yn cael ei redeg gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl â phosibl fedru defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fedru:
My Computer My Way yn offeryn ar-lein a ddarperir gan AbilityNet lle gallwch ddarganfod sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Os oes angen cymorth arnoch wrth ddefnyddio'r rhaglen hon oherwydd pryderon hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion isod:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 5 diwrnod.
Rydym yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwefannau a'n cymwysiadau drwy'r amser. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth TG drwy e-bostio ithelpdesk@cardiffmet.ac.uk neu dros y ffôn ar 029 2041 7000.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) drwy eu gwefan www.equalityadvisoryservice.com .
Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Nid yw'r cymhwysiad yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
AMH.
Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i'r cymhwysiad Gwiriwr Cymhwysedd yn unig.
O fewn y tîm Gwasanaethau Datblygu Meddalwedd rydym bellach yn blaenoriaethu hygyrchedd fel rhan o'r broses ddatblygu ar gyfer pob system newydd ac wrth wneud newidiadau i'r rhai sy’n bodoli eisoes. Mae ein prosesau profi meddalwedd bellach yn cynnwys profion ar gyfer hygyrchedd gan ddefnyddio amrywiaeth o offer gan gynnwys technolegau cynorthwyol a gwirwyr hygyrchedd. Mae proses barhaus ar waith i fynd i'r afael â'r materion hygyrchedd yn ein systemau hŷn.
Paratowyd y datganiad hwn ar 10eg Chwefror 2022. Fe'i hadolygwyd diwethaf ar 10eg Chwefror 2022.
Profwyd y cymhwysiad gwe hwn ddiwethaf ar 10eg Chwefror 2022. Cynhaliwyd y prawf gan Wasanaethau Datblygu Meddalwedd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Profwyd bob tudalen.